Cwcis
Mae’r porth hwn yn defnyddio cwcis i weithredu’n ddiogel ac yn ddibynadwy. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich dyfais pan fyddwch yn defnyddio’r porth. Maent yn helpu’r system i adnabod eich porwr a chynnal eich sesiwn. Nid yw cwcis yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel eich enw na’ch manylion cyswllt, ond gallant gadw data technegol sydd ei angen ar gyfer gweithrediad y porth.
Dim ond cwcis hanfodol ar gyfer gweithrediad y porth sy’n cael eu defnyddio gennym. Nid ydym yn defnyddio cwcis ar gyfer hysbysebu, proffilio na marchnata.
Pam rydym yn defnyddio cwcis
Mae cwcis yn galluogi’r porth i:
- Eich cadw wedi’ch mewngofnodi’n ddiogel wrth i chi symud rhwng tudalennau.
- Diogelu’ch sesiwn rhag camddefnydd neu fynediad heb awdurdod.
- Cofio’ch dewis iaith fel bod y porth yn ymddangos yn Gymraeg neu’n Saesneg.
- Cofnodi gwybodaeth dechnegol sylfaenol sydd ei hangen ar gyfer perfformiad a diogelwch y system.
Heb y cwcis hyn, ni fyddai’r porth yn gweithio fel y bwriadwyd.
Mathau o gwcis a ddefnyddiwn
-
Cwcis sesiwn
Cwcis dros dro yw’r rhain sy’n cael eu creu pan fyddwch yn mewngofnodi. Maent yn dal tocyn diogel sy’n cadarnhau’ch hunaniaeth drwy Fewngofnodi Sengl Microsoft Entra (SSO). Caiff cwcis sesiwn eu dileu’n awtomatig pan fyddwch yn allgofnodi neu’n cau eich porwr. -
Cwcis dewis iaith
Mae’r rhain yn cadw’ch dewis o Gymraeg neu Saesneg fel nad oes angen i chi ei ailosod bob tro y byddwch yn ymweld. Maent yn aros ar eich dyfais nes i chi eu dileu neu nes iddynt ddod i ben yn awtomatig. -
Cwcis diogelwch
Mae rhai cwcis yn helpu i ganfod gweithgaredd anarferol ac i ddiogelu rhag camddefnydd. Maent yn sicrhau mai dim ond defnyddwyr sydd wedi’u dilysu sy’n gallu cael mynediad at wybodaeth am atgyfeiriadau ac adroddiadau.
Pa mor hir y cedwir cwcis
- Caiff cwcis sesiwn eu dileu ar unwaith pan fyddwch yn allgofnodi neu’n cau eich porwr.
- Cedwir cwcis dewis iaith am hyd at 12 mis, oni bai eich bod yn eu dileu’n gynharach yn eich gosodiadau porwr.
- Cedwir cwcis diogelwch dim ond cyhyd ag sydd ei angen i gynnal sesiwn weithredol.
Eich dewisiadau
Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi rwystro neu ddileu cwcis. Fodd bynnag, nodwch os byddwch yn analluogi cwcis hanfodol:
- Ni fyddwch yn gallu mewngofnodi.
- Efallai y byddwch yn colli mynediad at adroddiadau ac atgyfeiriadau.
- Efallai na fydd y porth yn dangos yn eich iaith ddewisol.
Gan fod cwcis yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch a swyddogaethau craidd, rhaid eu derbyn er mwyn defnyddio’r porth hwn.
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: Awst 2025